“Ger fferm Glanbrennig ym mhlwyf Tregaron mae Ffynnon Garon. Ar y pumed o Fawrth, dydd Gwyl Sant Caron, byddai plant yr ardal yn arfer gorymdeithio at y ffynnon ers talwm. Byddai pob un yn cario potel fach a thipyn o siwgr coch ynddi. Wedi cyrraedd y ffynnon, byddent yn sefyll mewn hanner cylch o’i chwmpas a phob un yn ei dro yn llanw’i botel a’r dwr. Wedi ysgwyd y botel nes bod y siwgr wedi toddi ac aros nes bod pawb yn barod, yfent bob diferyn gyda’i gilydd. Ar Sul y Pasg, byddai cariadon yn dod at y ffynnon a rhoi bara gwn yn anrheg i’w gilydd cyn yfed y dwr. Deuai pobl o dalgylch eang o gwmpas Tregaron i ymweld a’r ffynnon ar yr achlysuron hyn.” Eirlys Gruffydd, (Ffynhonnau Cymru,Carreg Gwalch, 1997)














